Y Pwyllgor Cyllid
FIN(4) 21-12 – Papur 1
Ymchwiliad ‘Buddsoddi i Arbed’
Tystiolaeth ysgrifenedig gan Raglen Cymru Fyw.
Mae rhaglen Cymru Fyw wedi cael y dasg o greu corff newydd a fydd yn cyflawni swyddogaethau presennol Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Comisiwn Coedwigaeth. Daw’r corff newydd, a elwir yn ‘Cyfoeth Naturiol Cymru’, i rym ar 2 Ebrill 2013.
Yn yr achos busnes ar gyfer datblygu’r corff newydd pennwyd y tasgau angenrheidiol ar gyfer creu endid gweithredol, ac amcangyfrifwyd y cyllidebau y bydd eu hangen ar gyfer cyflawni’r tasgau hyn. Er mai Llywodraeth Cymru a’r tri chorff arall perthnasol sydd wedi bod yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r adnoddau ar gyfer cyflawni’r gwaith, nodwyd bod modd cyflawni rhai agweddau ar y rhaglen ynghynt ar yr amod bod cyllid ychwanegol i’w gael. Yn arbennig, bydd mynd i’r afael â gwaith pontio TG trwy gynnig atebion ‘cwmwl’ i’r holl staff yn hwyluso’r dasg o reoli dogfennau, a hefyd yn hwyluso’r integreiddio, gan roi sicrwydd pellach ynglŷn â pharhad busnes o’r diwrnod sefydlu ymlaen; a bydd y gwaith cyfreithiol, actiwaraidd ac AD y cyfeirir ato yn y cais ‘Buddsoddi i Arbed’ yn golygu y bydd y corff mewn sefyllfa dda i ddechrau ar y broses o gyflwyno newidiadau cyfundrefnol a thrawsnewid y diwylliant o’r diwrnod sefydlu ymlaen.
Mae’r achos busnes ar gyfer yr uno’n dangos y disgwylir i’r corff gyflawni £158 miliwn o fuddion gros dros gyfnod o 10 mlynedd, gyda chyfnod ad-dalu o 5 mlynedd. O’r herwydd, ystyrir y cyllid hwn (‘Buddsoddi i Arbed’) fel ‘ buddsoddiad galluogi’ a fydd yn cyfrannu at gyflawni’r buddiannau gros yn effeithiol. Dangosir manylion ariannol y cynnig isod.
Rhaglen Cymru Fyw |
|
|
|
Manylion ariannol ‘Buddsoddi i Arbed’ |
|
|
|
|
|
|
|
|
2012/13 |
2013/14 |
Cyfanswm |
|
£ |
£ |
£ |
|
|
|
|
Costau Pontio TG |
2,698,000 |
|
2,698,000 |
|
|
|
|
Adnoddau’r Tîm Rhaglen TG |
400,000 |
|
400,000 |
|
|
|
|
Cyngor Cyfreithiol ac Actiwaraidd |
250,000 |
100,000 |
350,000 |
|
|
|
|
Costau Ymgynghorwyr AD |
50,000 |
535,000 |
585,000 |
|
|
|
|
Cyfanswm y Costau |
3,398,000 |
635,000 |
4,033,000 |
|
|
|
|
Cynnig ‘Buddsoddi i Arbed’ (75%) |
2,548,500 |
476,250 |
3,024,750 |
Ad-dalu: |
|
|
|
2014/15 |
|
|
1,512,375 |
2015/16 |
|
|
1,512,375 |
Bydd y gwaith o ad-dalu buddsoddiad ‘Buddsoddi i Arbed’ ar gyfer costau ad-drefnu Cyfoeth Naturiol Cymru i’r cronfeydd wrth gefn yn dechrau yn 2014-15. Bydd yr ad-daliad yn £1.512m bob blwyddyn am ddwy flynedd, a chaiff ei ariannu yn sgil yr arbedion a fydd yn deillio o wireddu buddion y corff newydd, fel y nodir yn yr Achos Busnes. Bydd gostyngiad cyfatebol i’w Gymorth Grant yn sicrhau y bydd y buddsoddiad yn cael ei ddychwelyd i’r gronfa wrth gefn ganolog.
Yn ein tyb ni, mae cynnig ‘Buddsoddi i Arbed’ wedi galluogi’r rhaglen i gyflymu’r newid tuag at ddulliau cyflawni mwy effeithlon, effeithiol a chynaliadwy ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Ni fydd y buddion a ddaw yn sgil y buddsoddiad yn dechrau tan ar ôl y diwrnod sefydlu, ac ni fydd y buddion llawn yn cael eu gwireddu am 3-5 mlynedd. Bydd cytundeb fframwaith perfformiad rhwng Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei roi ar waith cyn y diwrnod sefydlu, a bydd y cytundeb hwn yn nodi y bydd yn ofynnol i Gyfoeth Naturiol Cymru fonitro’r modd y caiff buddion yr achos busnes eu cyflawni. Wedyn, bydd modd i Lywodraeth Cymru benderfynu a yw’r buddion wedi cael eu cyflawni, ai peidio. Bydd perthynas yn cael ei dwyn rhwng is-set o’r buddion hyn a buddsoddiad ‘Buddsoddi i Arbed’, ac felly bydd modd cysylltu’r dasg o gyflawni gwasanaethau hirdymor a gwelliannau cyfundrefnol â gwariant yr arian ‘Buddsoddi i Arbed’.
Pan ddaw rhaglen Cymru Fyw i ben ym mis Ebrill 2013, bydd proses ffurfiol yn ymwneud â ‘gwersi a ddysgwyd’ yn cael ei rhoi ar waith, a bydd yr holl wersi perthnasol yn cael eu nodi. Fe fydd ambell un o’r rhain yn ymwneud â’r broses ‘Buddsoddi i Arbed’ a rôl alluogi’r buddsoddiad o safbwynt y rhaglen. Gan y bydd y rhan fwyaf o’r prosiectau a gaiff arian ‘Buddsoddi i Arbed’ yn cael eu rheoli’n ffurfiol, yn ôl pob tebyg fe fydd y broses hon yn cael ei rhoi ar waith yn gyffredinol. Ein hawgrym ni yw y dylai’r adroddiadau ar ‘wersi a ddysgwyd’ fod ar gael i gynulleidfa ehangach fel y gallwn rannu arferion da a dysgu yn sgil profiad.
Gretel Leeb
Uwch Swyddog Cyfrifol
Rhaglen Cymru Fyw.